Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 4 - Ty Hywel |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 18 Chwefror 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:00 - 10:37 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Darren Millar (Cadeirydd) Mike Hedges Alun Ffred Jones Julie Morgan Jenny Rathbone Aled Roberts Sandy Mewies |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Meriel Singleton (Ail Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Joanest Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.
2 Papurau i’w nodi
2.1 Nodwyd y papurau.
2.1 Bwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-Coed a Gwynllŵg: Llythyr gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd (5 Chwefror 2014)
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
3.1 Derbyniwyd y cynnig.
4 Rheoli Grantiau yng Nghymru: Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru 2013
4.1 Trafododd yr Aelodau yr adroddiad gan nodi y gwneir trefniadau i drafod yr eitem hon ymhellach ar ôl y Pasg pan fydd dau adroddiad cysylltiedig gan Swyddfa Archwilio Cymru ar gael. Cytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am ragor o wybodaeth cyn y cyfarfod hwnnw.
5 Trefniadau Cyflenwi ar gyfer Absenoldeb Athrawon: Trafod tystiolaeth ychwanegol
5.1 Nododd yr Aelodau y dystiolaeth ychwanegol. Cytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurder ynghylch nifer o faterion a bydd y clercod yn llunio adroddiad drafft.
6 Cyllid Iechyd ar gyfer 2012-13 a thu hwnt: Trafod tystiolaeth ychwanegol
6.1 Nododd yr Aelodau y dystiolaeth ychwnaegol. Mynegodd yr Aelodau rai pryderon a chytunwyd i ymdrin â'r rhain yn y sesiwn lafar sydd i ddod gyda Phrif Weithredwr GIG Cymru.
6.2 Bydd y clercod yn llunio fersiwn derfynol o'r adroddiad ac yn ei ddosbarthu i'r Aelodau er mwyn iddynt gytuno arno.
7 Gofal heb ei drefnu: Trafod tystiolaeth ychwanegol
7.1 Nododd yr Aelodau y dystiolaeth ychwanegol a gaiff ei hadlewyrchu yn adroddiad y Pwyllgor.
8 Ymdrin â’r Heriau Ariannol sy’n wynebu Llywodraeth Leol yng Nghymru: Sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru
8.1 Cafodd yr Aelodau sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru ar Ymdrin â'r heriau ariannol sy'n wynebu Llywodraeth Leol yng Nghymru.
8.2 Cytunwyd y bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ofyn am ymateb i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru. Bydd y Cadeirydd hefyd yn ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i roi gwybod i'r Pwyllgor am yr adroddiad hwn a gofyn iddo ystyried cynnal ymchwiliad i'r mater.
8.3 Ar ôl i'r ymatebion ddod i law, bydd y Pwyllgor yn trafod a ddylid cynnal ymchwiliad i'r mater.